North Wales Wildlife Trust
tendersglobal.net
This ad is bilingual, please scroll down for English text / Mae’r hysbys yma yn ddwyieithog
sgroliwch i lawr am y Saesneg
Mae’r rhaglen Interniaeth Dyfodol Morol yn cynnig cyfle unigryw i ymgeiswyr sydd â diddordeb
mewn gyrfa yn yr amgylchedd morol ddysgu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar draws amrywiaeth o
sectorau morol, gan helpu fel sail i lunio cyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.
Cyllidir y Rhaglen gan Stad y Goron ac mae’n cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd
Cymru a chaiff ei gweithredu mewn partneriaeth â Stad y Goron, M-SParc a Menter Môn. Mae pob
sefydliad partner yn darparu cyfleoedd i’r intern ddatblygu sgiliau yn y gwaith mewn meysydd
arbenigol, gan gynnwys cyngor cadwraeth forol, pysgodfeydd cynaliadwy, datblygu ynni
adnewyddadwy, polisi morol, ac ymgysylltu â chymunedau. Drwy’r rhaglen bydd yr intern yn cael
cynnig profiad a golwg gytbwys ar yrfa yn yr amgylchedd morol a sut gall gwahanol sectorau
gydweithio. Bydd yr intern yn cael cyfle i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol yn
canolbwyntio ar bwnc sy’n berthnasol i bob partner. Bydd gweithgareddau ychwanegol yn cynnwys
ymgysylltu â rhanddeiliaid, creu deunyddiau allgymorth addysgol rhithwir a gwaith maes
ecolegol.
Rydym yn chwilio am ddau intern a all adeiladu ar eu sgiliau a’u gwybodaeth bresennol i wneud y
gorau o’r profiad unigryw yma. Dylai’r ymgeiswyr fod â dealltwriaeth dda o faterion morol
cyfredol a rhywfaint o brofiad o weithio neu wirfoddoli yn y sector morol. Yn bwysicaf oll,
rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n angerddol ac yn frwdfrydig am yr amgylchedd morol ac sy’n
barod i ddysgu, yn drefnus, yn llawn hunangymhelliant, ac yn gallu gweithio’n dda o fewn tîm, o
bell ac wyneb yn wyneb.
Mae’n hanfodol bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth o ddiwylliant Cymru
a’r iaith Gymraeg, gyda’r gallu i weithio o fewn tîm dwyieithog ac yn ymrwymo i ddysgu’r iaith
os yn ddysgwr. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ac yn faen prawf pwysig.
Sylwch, gan fod y swyddi hyn wedi’u heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974, bydd angen
archwiliad Datgeliad lefel uwch boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
(DBS) ar gyfer yr ymgeiswyr llwyddiannus, ynghyd â thrwydded yrru gyfredol.
Mae disgrifiad llawn ynghyd a ffurflen gais ar gael o www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/jobs
Dyddiad cau: 26fed o Ebrill 2024 am 12 Hanner Dydd
Cyfweliadau i’w
cynnal: 15fed/16fed o Fai 2024
The Marine Futures North Wales Internship programme offers a unique opportunity for candidates
interested in a career in the marine environment to gain skills, knowledge and experience
across a variety of marine sectors; helping to inform and shape future career opportunities.
The Programme is funded by The Crown Estate, project managed by North Wales Wildlife Trust and
run in partnership with The Crown Estate, M-SParc and Menter Môn. Each partner organisation
provides opportunities for the intern to develop on-the-job skills in specialist areas
including, marine conservation advice, sustainable fisheries, renewable energy development,
marine policy, and community engagement. Through the programme the intern will be offered
experience and a balanced view on a career in the marine environment and how different sectors
can work together. The intern will get the chance to undertake an independent research project
focussing on a topic that is relevant to all partners. Additional activities will include
stakeholder engagement, creating virtual educational outreach materials and ecological
fieldwork.
We are looking for two interns who can build on their existing skills and knowledge to make the
most of this unique experience. Applicants should have a good understanding of current marine
issues and some experience working or volunteering within the marine sector. Most importantly,
we are looking for candidates who are passionate and enthusiastic about the marine environment
have a willingness to learn, are organised, self-motivated, and can work well within a team
both remotely and in person.
It is essential that the successful candidates have an understanding of Welsh
culture and language with an ability to work within a bilingual team and a willingness to
learn. The ability to speak Welsh is preferred and this is a weighted criterion.
Please note that, as these posts are exempt from the Rehabilitation of Offenders Act 1974,
a satisfactory enhanced level Disclosure and Barring Service (DBS) Disclosure
check will be required for the successful candidates along with a current driver’s
licence.
A full Internship description and application form is available from www.northwaleswildlifetrust.org.uk/jobs
Closing date: 26th April 2024 at 12noon
Interviews to
be held: 15th/16th of May 2024
Find out more & apply
To help us track our recruitment effort, please indicate in your email/cover letter where (tendersglobal.net) you saw this internship posting.